Friday 15 April 2011

Arolwg 2011 / Survey 2011

Llenwch yr holiadur a cheisiwch ennill £50!

A wnewch chi ein helpu i wella gwasanaethau trwy gymryd ychydig o funudau i lenwi ein harolwg byr. Defnyddir yr adborth a geir trwy'r arolwg i bennu blaenoriaethau ar gyfer yr Adran Gwybodaeth a Hysbysrwydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, ac nid oes angen rhoi'ch enw wrth ateb. 30 Mehefin 2011 yw’r dyddiad cau.

Arolwg - Campws Caerfyrddin
Arolwg - Campws Llambed

--------------------------------------------------------------------------------

Fill in the survey and enter our prize draw to win £50!

Please help us to improve our services by taking a few minutes to complete our short survey. Feedback from the survey will be used to identify priorities for the Department of Knowledge and Information during the forthcoming academic year, and your response can be completely anonymous. The closing date is 30th June 2011.

Carmarthen Campus - Survey
Lampeter Campus - Survey

MERCH PERYGL - GOMER YN CYHOEDDI DETHOLIAD O WAITH MENNA ELFYN

Yr wythnos hon, bydd Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol bwysig o waith Menna Elfyn, un o feirdd pwysicaf y Gymru fodern. Am y tro cyntaf, fe fydd y gyfrol hon yn cynnig detholiad cynhwysfawr o waith bardd sydd wedi chwarae rhan anhepgor yn natblygiad barddoniaeth am dros 35 mlynedd a mwy. Yn y gyfrol Merch Perygl ceir dros 150 o gerddi yn rhychwantu gyrfa gyfan y bardd hyd yma, o gyfrolau cynnar y saithdegau Mwyara a ‘Stafelloedd Aros, drwy’r wythdegau a’r nawdegau i gyfrolau diweddar megis y gyfrol ddwyieithog gan Bloodaxe, Perfect Blemish/Perffaith Nam a’r gyfrol ddiweddaraf gan Gomer, Er Dy Fod, yn 2007. Serch ei llwyddiant byd-eang, a gwahoddiadau di-ri i deithio’r byd i hyrwyddo cyfrolau newydd mewn ieithoedd tramor, mynna Menna Elfyn, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr ar y cwrs gradd meistr ysgrifennu creadigol Cymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mai bardd Cymraeg yw hi wastad, a dyna pam fod y gyfrol hon yn golygu cymaint iddi.

GOMER PUBLISH MENNA ELFYN POETRY ANTHOLOGY

This week, Gomer will publish an important poetry anthology by Menna Elfyn, one of contemporary Wales’ most well-known poets. For the first time, this latest publication offers a comprehensive anthology of the work of a poet that has played a key role in the development of Welsh poetry over the last thirty-five years and more. The anthology, entitled Merch Perygl includes over 150 Welsh-language poems spanning the whole of the poet’s career thus far, from the early poems of the seventies including Mwyara and ‘Stafelloedd Aros, through the eighties and nineties to more recent collections such as the bilingual collection by Bloodaxe Perfect Blemish/Perffaith Nam and the latest collection by Gomer, Er Dy Fod, in 2007. Despite her worldwide success, and constant invitations to travel the world promoting new editions in foreign languages, Menna Elfyn, who is also director of the MA in Creative Writing in English and Welsh at the University of Wales Trinity Saintt David, is adamant that she is a Welsh poet first and foremost, and that’s why this book means so much to her.

Monday 4 April 2011

Connected Histories: British History Sources, 1500-1900

Connected Histories brings together a range of digital resources related to early modern and nineteenth century Britain with a single federated search that allows sophisticated searching of names, places and dates, as well as the ability to save, connect and share resources within a personal workspace.