Friday 28 January 2011

Gwasanaeth newydd o’r CAD: Link Manager gan WorldCat

Mae’r Ganolfan Adnoddau Dysgu yn falch i gyhoeddi gwasanaeth ar-lein newydd i fyfyrwyr a staff: Link Manager.   Mae Link Manager yn dod â holl adnoddau electronig y Brifysgol sydd â thestun llawn at ei gilydd drwy un porth, a gallwch ei chwilio yn ôl teitl y cylchgrawn neu e-lyfr, neu yn ôl y maes pwnc.   Rhowch gynnig ar Link Manager nawr yn http://tsd.lm.worldcat.org/

Link Manager yw cam cyntaf ein tanysgrifiad newydd i WorldCat a fydd yn darparu un porth chwilio ar gyfer holl adnoddau’r CAD ar y ddau gampws yn Llambed a Chaerfyrddin.   Cadwch lygad allan am lansiad llawn ein porth WorldCat Local maes o law yn 2011!

New from the LRC: WorldCat Link Manager

The Learning Resources Centre is pleased to announce a new online service for students and staff: Link Manager.  Link Manager brings together all the University's full text electronic resources in a single portal, and is searchable by journal or e-book title, or subject area.  Try Link Manager now at http://tsd.lm.worldcat.org/

Link Manager is just the first part of our new WorldCat subscription which will provide a single search portal for all LRC resources on both Carmarthen and Lampeter campuses.  Look out for the full launch of our WorldCat Local portal later in 2011!